Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Harneisio algorithm Steam – Jeff, Stargazy Games

Hydref 23, 2023 @ 1:00 pm - 2:00 pm

Harneisio algorithm Steam

23ain Hydref – 1yp-2yp
Yn fyw yn Stiwdio Caerdydd – ffrydio’n fyw i Gasnewydd a Threfforest

 “Eisiau gwneud bywoliaeth o werthu’ch gemau? Yna bydd angen i chi eu gwerthu ar Steam.

 Mae Valve yn honni nad yw Steam wedi’i guradu a bod Steam yn feritocratiaeth o ddylunio gêm. Mae hyn yn gelwydd.

Dewch i fy sgwrs i ddysgu am sut mae gemau’n gwerthu ar Steam, a sut mae algorithm Steam yn creu marchnad 2 haen.

Gall yr Algorithm naill ai eich gadael i mewn i Real Steam™, neu wahardd eich gêm fel nad oes neb byth yn ei gweld.

Yn fy sgwrs, byddwch chi’n dysgu’r technegau i gael eich gêm wedi’i bendithio gan yr Algorithm a datgloi llwyddiant masnachol.

 Croeso i chwilwyr gwirionedd.
Jeff STARGAZY Sheen

Ers 2009 rwyf wedi bod yn creu gemau arloesol, gweithredu fel micro-stiwdio ystwyth ac annibynnol. Rwy’n cyflawni’r holl ddyletswyddau datblygu gemau yn STARGAZY, gan gynnwys dylunio, rhaglennu a rheoli busnes.

Gan ddechrau fel rhaglennydd gemau llawrydd, rwyf wedi gweithio ar gemau poblogaidd fel Prison Architect. Rwyf bellach yn ymgymryd â rolau arweiniol o ran rhaglennu a dylunio, ar ôl rhyddhau Democracy 4 yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd mae STARGAZY yn creu ei theitl hunan-gyhoeddedig cyntaf, gêm strategaeth sy’n debyg i’r gêm Rouge, ac yn datblygu offer cynhyrchu gweithdrefnol sydd ar flaen y gad.

Details

Date:
Hydref 23, 2023
Time:
1:00 pm - 2:00 pm

Venue

Stiwdio Caerdydd – ffrydio’n fyw i Gasnewydd a Threfforest

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy