
Mae aelodaeth am ddim i raddedigion PDC (hyd at 3 blynedd ar ôl graddio). Os hoffech wneud cais am le yn un o’n rhaglenni egino, llenwch y ffurflen gais hon a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich syniad busnes
Desg lawn
Os ydych chi eisiau gweithio o un o’n gofodau egino y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos yna’r aelodaeth hon yw’r mwyaf addas i chi. Byddwch yn cael eich desg eich hun, iMac a lle i adael eich pethau’n ddiogel.
Galw heibio
Dyma’r opsiwn gorau os ydych yn bwriadu cyd-weithio o un o’n gofodau egino ychydig ddyddiau bob wythnos. Gallwch fod yn un o’r podiau ffynci neu ofodau cydweithio unigol am y dydd.

















Rhithiol
Os nad ydych wedi’ch lleoli yn Ne Cymru yna bydd ein haelodaeth rithwir yn eich galluogi i barhau i gael mynediad i’n sesiynau hyfforddi entrepreneuriaeth ar-lein, a’n holl wasanaethau cymorth proffesiynol a busnes o’ch cartref neu ble bynnag yr ydych yn gweithio.
Ddim wedi graddio o PDC
Mae gennym gyfraddau cydweithio dyddiol o £10 y dydd gan gynnwys te a choffi am ddim a band eang cyflym.
Mae gennym hefyd fannau swyddfa pwrpasol i’w rhentu. E-bostiwch stiwdio@southwales.ac.uk i archebu lle cydweithio neu i holi am ein swyddfeydd