Back

Cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth frandio a logo cydraddoldeb hiliol

Mae enillydd wedi’i enwi mewn cystadleuaeth PDC i helpu i ddylunio logo sy’n adlewyrchu’r gwaith ecwiti hiliol yn y Brifysgol.

Crëwyd y dyluniad buddugol gan y myfyriwr graddedig Ida Mirzaee, a astudiodd MA Animeiddio yn y Brifysgol. Mae hi bellach yn aelod o Startup Stiwdio Sefydlu PDC, lle mae’n datblygu ei chwmni cynhyrchu ei hun.

Defnyddir y brandio ar sianeli ar-lein ac mewn digwyddiadau i gyfeirio aelodau’r Brifysgol at waith cydraddoldeb hiliol parhaus. Roedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd trwy gydol mis Chwefror, yn agored i fyfyrwyr PDC ac aelodau o gymuned cyn-fyfyrwyr PDC a oedd wedi graddio dros y deng mlynedd diwethaf. O ganlyniad i ennill y gystadleuaeth, bydd Ida yn derbyn £150 a thocyn rhodd gwerth £100. Bydd hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau Brandio a Startup Stiwdio Sefydlu y Brifysgol i weithio ar lunio ei logo i ddyluniad terfynol, a fydd yn cael ei ymgorffori yng nghanllawiau brand PDC.

Dewiswyd naw yn ail a bydd pob un yn derbyn tocyn rhodd gwerth £100.

Ar ôl cael ei chyhoeddi fel yr enillydd, dywedodd Ida, “O ganlyniad i dderbyn Ysgoloriaeth Noddfa i astudio MA Animeiddio rydw i wedi gallu dysgu a thyfu yn PDC. Ers hynny rwyf wedi graddio gyda rhagoriaeth ac wedi ymuno â Startup Stiwdio Sefydlu y Brifysgol. Mae fy mywyd wedi cael ei newid gan hyn ac rydw i eisiau i bawb arall gael y profiad hwn hefyd.”

Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Deorfa Prifysgol De Cymru: “Fel rheolwr rhaglen deorfa graddedigion Startup Stiwdio Sefydlu a Hyrwyddwr Cydraddoldeb Hiliol i Brifysgol De Cymru, rwy’n falch iawn bod y beirniaid wedi dewis dyluniad Ida fel y cais buddugol.

“Byddwn yn falch o arddangos y logo terfynol ar draws pob un o’n tair deorfa yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag Ida i ddatblygu ei busnes cychwynnol ymhellach.”

Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: “Rwy’n falch iawn ein bod yn lansio logo newydd sy’n amlygu ein gwaith tuag at y Nod Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Mae’n  arbennig yn enwedig gan fod hwn wedi’i ddylunio gan un o’n graddedigion.

“Bydd sicrhau’r Siarter yn gymeradwyaeth wych o’r newid yr ydym yn ceisio’i gyflawni ond bydd hefyd yn arwydd i eraill o’n hymrwymiad i’r gwaith. Gyda logo pwrpasol, bydd yn haws adnabod y gwaith sydd ar y gweill a’r cynnydd yr ydym yn ei wneud, felly byddwn yn annog myfyrwyr a chydweithwyr i gadw eu llygaid ar agor am y brandio rhagorol hwn.

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy