Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

CBH Casnewydd 2.0- Rhaglen Datblygu Busnes

Medi 19 @ 9:30 am - Tachwedd 28 @ 3:00 pm

Mae entrepreneuriaid o ardal Casnewydd sy’n gweithredu yn y sector creadigol yn cael cynnig mynediad at raglenni datblygu busnes am ddim, rhaglen yn Dechrau 19.09.24

Mae’r rhaglenni’n agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghasnewydd neu sydd am ddechrau eu busnes yno.

Mae’r rhaglen mewn partneriaeth â ICE Cymru – y Ganolfan Arloesi Menter – sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy Llywodraeth y DU i redeg rhaglenni cychwyn busnes ar draws y ddinas mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill.

Bydd yr holl raglenni yn rhedeg ar ddydd Iau rhwng 9.30am a 3pm ac yn cynnwys cymorth datblygu busnes a mentora personol.

Yna, gall cyfranogwyr leoli eu busnes yn uned egino Stiwdio Sefydlu newydd PDC ar ein campws yng nghanol y ddinas, ac elwa o rwydweithiau busnes helaeth ledled De Cymru.

Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Stiwdio Sefydlu: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid parhaus i’n galluogi i ehangu’r Rhwydwaith Busnesau Creadigol yng Nghasnewydd, ar ôl ei beilot llwyddiannus yn 2023; ariannwyd gan Creative Cardiff.

“Mae gan Gasnewydd sin creadigol annibynnol ffyniannus eisoes, ac rydym yn gobeithio, trwy arfogi pobl a chymunedau yn y ddinas i ddechrau busnesau a gyrfaoedd creadigol newydd, y gall PDC barhau i ychwanegu at y sector twf uchel hwn.”

Gweld yr amserlen

 

Rhan o CBH 2.0 

Details

Start:
Medi 19 @ 9:30 am
End:
Tachwedd 28 @ 3:00 pm
Event Category:

Venue

Startup Stiwdio Sefydlu Casnewydd

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy