Ymunwch â ni dros fwyd rhagorol a cherddoriaeth wych ar gyfer digwyddiad rhwydweithio cymdeithasol a thrafodaeth gyda’r gymuned greadigol leol.
Dewch i gysylltu â grŵp amrywiol o bobl greadigol i archwilio anghenion a heriau pobl hunangyflogedig a busnesau newydd yn y diwydiannau creadigol. Bydd tîm CABAN RhCT yn rhannu cyfleoedd twf a datblygu sydd ar gael yn yr ardal. Helpwch ni i drosoli egni creadigol y Cymoedd, gan gynnull rhwydweithiau newydd ac adnewyddu cysylltiadau creadigol ar draws y fwrdeistref a’r rhanbarth ehangach.
Bydd trafodaethau Cymraeg a Saesneg, gyda cherddoriaeth a siaradwyr gwadd yn tynnu ynghyd yr hyn sydd ei angen arnoch chi a’r gymuned greadigol ehangach yn Rhondda Cynon Taf nawr ac ar gyfer twf yn y dyfodol.
Rhan o CABAN (Artist Creadigol a Rhwydwaith Gweithredu Busneses) Darllenwch ragor