Mae Stiwdio Sefydlu arobryn PDC yn dychwelyd i Gasnewydd ym mis Ionawr, gan gynnig hyfforddiant a rhaglenni datblygu busnes am ddim i unrhyw un sydd o gefndir mwyafrif byd-eang, sy’n F/fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol, neu’n dod o gefndir dan anfantais addysgol/amgylcheddol neu economaidd ac sydd â syniad busnes newydd mewn unrhyw sector – o ffasiwn, harddwch a thechnoleg ariannol, i fwyd a diod.
Mae’r rhaglenni’n agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghasnewydd neu sydd am ddechrau eu busnes yno, ac nid oes angen i chi fod yn raddedig o PDC i ymuno.
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
-Hyfforddiant a mentora
-Rhaglen datblygu busnes
-Mynediad i ddeorydd cydweithio
-Mae lleoedd yn gyfyngedig, gwnewch gais nawr
-Rhwydweithio gyda chysylltiadau newydd yn yr ardal
Sylwer,wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon a’i gweithgareddau, eich bod yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru (PDC) a phartneriaid rannu eich data personol at ddibenion monitro ac adrodd. Rydych hefyd yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru a phartneriaid ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata ac adrodd.
Am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch: Stiwdio@southwales.ac.uk