Caiff y gweithdai pythefnosol ar gyfer sefydlu busnesau eu hwyluso gan yr arlunydd a hwylusydd gweledol Prith Biant. Nod y rhaglen yw cymryd gwreiddyn eich syniad busnes a’ch helpu i’w wireddu. Mae’n cynnal 8 sesiwn ac mae pob un yn adeiladu ar ei gilydd. Mae Prith wedi bod yn rheoli ei busnes ei hun ers dros 15 mlynedd, gan ddechrau gydag asiantaeth gelfyddydol, yna cwmni hyfforddi creadigol a nawr fel arlunydd. Mae hi’n gweithio mewn ysgolion fel ymarferydd creadigol, yn addysgu ac yn cynnal gweithdai creadigol gyda menywod ar hunanddelwedd a grymuso. Gallwch ddarganfod mwy am ei gwaith yma www.pritb-art.com.
Mer | 10 – Ion | 10yb-1yp 12.15/ 1.15-3.30yp | Stiwdio Casnewydd | Wythnos 5 – Gweithdy wyneb yn wyneb am Ddatblygu Menywod Entrepreneuraidd (DEW) |
Mer | 24 – Ion | 10yb- 12.15yp/ 1.15-3.30yp | Stiwdio Casnewydd | Wythnos 6 – Gweithdy wyneb yn wyneb am Ddatblygu Menywod Entrepreneuraidd (DEW) |
Mer | 7 – Chwef | 10yb- 12.15yp/ 1.15-3.30yp | Stiwdio Casnewydd | Wythnos 7 – Gweithdy wyneb yn wyneb am Ddatblygu Menywod Entrepreneuraidd (DEW) |
Mer | 21- Chwef | 10yb-1yp 12.15/ 1.15-3.30yp | Stiwdio Casnewydd | Wythnos 8 – Gweithdy wyneb yn wyneb am Ddatblygu Menywod Entrepreneuraidd (DEW) |