Prith Biant
- This event has passed.
Datblygu Menywod Entrepreneuriaid: Gwersyll Stiwdio Casnewydd 01
Tachwedd 8, 2023
Gan ddechrau ym mis Tachwedd, caiff y gweithdai pythefnosol ar gyfer sefydlu busnesau eu hwyluso gan yr arlunydd a hwylusydd gweledol Prith Biant. Nod y rhaglen yw cymryd gwreiddyn eich syniad busnes a’ch helpu i’w wireddu. Mae’n cynnal 8 sesiwn ac mae pob un yn adeiladu ar ei gilydd. Mae Prith wedi bod yn rheoli ei busnes ei hun ers dros 15 mlynedd, gan ddechrau gydag asiantaeth gelfyddydol, yna cwmni hyfforddi creadigol a nawr fel arlunydd. Mae hi’n gweithio mewn ysgolion fel ymarferydd creadigol, yn addysgu ac yn cynnal gweithdai creadigol gyda menywod ar hunanddelwedd a grymuso. Gallwch ddarganfod mwy am ei gwaith yma www.pritb-art.com.
Cynhelir y sesiynau rhwng 10yb a 12.30yp a 1yp-3.30yp, gallwch ddewis cymryd rhan yn y bore neu’r prynhawn, yn dibynnu ar eich amserlen.
Mae’r artist gweledol a’r entrepreneur creadigol Prith Biant wedi creu’r cwrs a bydd yn ei hwyluso’n fyw o Ystafell y Bwrdd Campws Casnewydd PDC.
Mae Prith wedi bod mewn busnes ers dros 15 mlynedd ac erbyn hyn mae’n gweithio fel artist a hwylusydd. Mae ganddi gefndir mewn creadigrwydd a busnes, felly mae ganddi gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w gyflwyno i’r rhaglen hon.
Nod y rhaglen yw cymryd egin eich syniad busnes a’ch helpu i’w gwireddu. Dros 8 o sesiynau, a fydd yn adeiladu ar ei gilydd, byddwn yn cwmpasu: mireinio eich syniad busnes, prisio, bod yn glir ynghylch eich cwsmer, marchnata, bod yn gyfforddus gyda chyllid a llif arian, rheoli eich amser a chadw ffocws.
Rhwng sesiynau, byddwn yn cynnal cyfarfodydd rhithwir dros Zoom i fynd dros unrhyw gwestiynau sy’n codi o’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd nifer cyfyngedig o sesiynau un i un gyda Prith hefyd ar gael os oes angen cymorth unigol arnoch.
Os hoffech gymryd rhan, a fyddech cystal â llenwi’r ddwy ffurflen ganlynol
https://forms.gle/5mBAu1pT1nBTmWGn7
https://forms.gle/jchQsMC6zQJ4Dokr8
Rhan o Datblygu Menywod Entrepreneuriaid Darllenwch ragor