- This event has passed.
HBC- Digwyddiad Arddangos a Dathlu Creadigol
Chwefror 20, 2024 @ 12:00 pm - 8:00 pm
Ymunwch â ni ar 20 Chwefror, 12pm-8pm, yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd am arddangosfa enfawr.
Daw arbenigwyr creadigol, sefydliadau ariannu a busnesau creadigol ynghyd, gyda sgyrsiau gwadd, sesiynau rhyngweithiol, gwybodaeth a lluniaeth i gyd ar gael – Peidiwch â cholli allan!
Mwy o wybodaeth a manylion i’w cyhoeddi’n fuan, ond am y tro, rhowch hwn yn eich dyddiadur ac archebwch eich tocyn am ddim isod i osgoi cael eich siomi.
Bwyd a bar
Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.
Rydym yn chwilio am amlinelliad o’ch syniad busnes neu fusnes cyfredol i’n galluogi i ddarparu cymorth busnes wedi’i deilwra a thargedu ein digwyddiadau i’ch sector creadigol penodol. Sylwch, wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon a’i gweithgareddau, eich bod yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru (PDC) a Sefydliadau partner rannu eich data personol at ddibenion monitro ac adrodd. Rydych hefyd yn rhoi caniatâd i Brifysgol De Cymru ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata ac adrodd.
Rhan o- Hwb Busnes Creadigol Casnewydd