Back

(Cymraeg) Menter Pobl Ifanc

Mae Menter Pobl Ifanc yn darparu ymyriadau Lles a Mentoriaid Hyfforddi i Blant a Phobl Ifanc (PPhI) rhwng 13-18 oed, sydd yn methu mynychu neu gymryd rhan mewn addysg draddodiadol/llawn amser. Mae ein rhaglen yn un cyfannol sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac mae’n cael ei chyflwyno gan fentoriaid medrus, angerddol, meithringar a phrofiadol.

Rydym yn angerddol dros Fentora’r unigolion hyn i’w helpu i gyflawni eu nodau a’u dyheadau trwy gyflwyno cyrsiau byrion ASDAN. Rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn darparu rhaglen Mentoriaid Hyfforddi wedi’i theilwra sy’n dilyn amrywiaeth o ymyriadau cadarnhaol, modiwlau dysgu a gweithgareddau.

Mae natur y cymorth a ddarperir yn ddibynnol ar ganlyniadau sydd yn ein galluogi i gyflawni’r nifer uchaf posib o’r targedau a bennir gan yr unigolyn. Gellir darparu cymorth i leoliadau Addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cynlluniau Prentisiaeth a cholegau a’r rhwydwaith teulu a rhieni corfforaethol.

Ein nod yw sicrhau bod newidiadau cadarnhaol yn cael eu gwneud i’w lles a’u bywydau bob dydd wrth feithrin eu hunan hyder.

Y prif fwriad yn y pen draw yw creu amgylchedd teuluol cyson a sefydlog i’r bobl ifanc. Credwn mai’r sefydlogrwydd a’r cysondeb hwn sy’n caniatáu iddynt gyflawni a chynnal canlyniadau cadarnhaol.

 

Rydym yn cynnal asesiad cychwynnol gyda’r PPhI er mwyn sefydlu pa sefyllfaoedd ac amodau y maent yn mwynhau dysgu ynddynt.

Yna, rydym yn darparu cyrsiau byrion ASDAN dros 10, 20 a 40 awr. Mae hyd y cyrsiau yn dibynnu ar yr unigolyn. Mae pob modiwl wedi’i deilwra i’r PPhI ac yn plethu hobïau a diddordebau neu weithgareddau bywyd bob dydd i mewn i’r cwrs.

Mae’r dysgu’n fesuradwy, wedi’i achredu a’r nod yw magu gwybodaeth a sgiliau yn raddol.

 

Rydym yn cefnogi PPhI sydd ag amrywiaeth o anghenion, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Trawma, Awtistiaeth/ADHD, Anableddau Dysgu, Camddefnyddio Sylweddau, Hunan-anafu, Iechyd Meddwl, Ymddygiad Troseddol yn ogystal â disgyblion sy’n gwrthod mynd i’r ysgol. Gellir darparu Mentoriaid Hyfforddi o fewn y lleoliad gofal, yn yr awyr agored, amrywiaeth o amgylcheddau trwy brofiad, Busnesau lleol ar gyfer profiadau gwaith, sectorau cymunedol gwirfoddol yn ogystal ag o fewn ysgolion a gellir defnyddio Gwasanaethau React ar gyfer cludiant.

 

Mae Mentoriaid Hyfforddi

Wedi’u cofrestru drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Yn gweithredu Model Adfer Trawma.

Yn cynnig Cefnogaeth Ymddygiad cadarnhaol.

Yn meddu ar Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth.

Wedi’u hyfforddi drwy ASDAN.

Yn ymarferwyr Lefel 3 o leiaf.

Wedi’u hyfforddi i ddiogelu.

Wedi’u hyfforddi i gyflwyno ymyriadau llesiant.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar-lein helaeth i’n Mentoriaid Hyfforddi.

 

 

Rydym yn cadw at restr helaeth o bolisïau Diwydrwydd Dyladwy.

  • Matrics Safonau
  • Manyleb Gwasanaeth
  • Canllaw Defnyddiwr Gwasanaeth
  • Polisi GDPR
  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Polisi Plant a Phobl Ifanc (PPhI) Coll.
  • Cydymffurfiaeth Archwilio
  • Dadansoddi Digwyddiad
  • Polisi Cefnogi Ymddygiad Positif (PbS)

Cadw cofnodion

  • Polisi Diogelu
  • Chwiliadau ar blant a phobl ifanc a’u heiddo
  • Model Adfer Trawma.

 

Lisa Brunt: Fel Cyfarwyddwr y Gwasanaeth mae fy nghefndir i o fewn rôl Addysgol. Cyn sefydlu Menter Pobl ifanc roeddwn yn Bennaeth Blwyddyn Cynorthwyol/Arweinydd Bugeiliol mewn ysgol gyfun fawr. Rôl fugeiliol oedd gennyf yn bennaf. Mae fy ngwybodaeth a fy mhrofiad wedi fy arfogi i ddysgu sut i ymdrin â Phlant a Phobl Ifanc (PPhI) yn ogystal â gallu cydweithio gydag asiantaethau amrywiol, gweithwyr proffesiynol, teuluoedd, rhieni corfforaethol / warcheidwaid.

Rwy’n ymfalchïo yn ein moesau a’n gwerthoedd ac mae’r PPhI yn ganolog i bopeth a wnawn.

https://Menterpoblifanc.co.uk

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy