Mae Azimech Research yn cysylltu ymchwil prifysgol arloesol yn y sector creadigol gyda diwydiant, sefydliadau diwylliannol a chydweithwyr. Mae gan Azimech ddiddordeb arbennig mewn cynnwys a thechnoleg trochi, a chreadigrwydd digidol gan gynnwys systemau deallusrwydd artiffisial sy’n dod i’r amlwg.
Gyda chwarter canrif o brofiad o gynigion a phrosiectau llwyddiannus, mae Azimech yn darparu gwasanaeth ymchwil strategol personol yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Gall Azimech gynorthwyo gyda: cynigion am arian, cyflwyno syniadau; meithrin partneriaethau rhyngwladol; strategaethau ymchwil a mentora; achosion effaith a gwerthuso.
Ewch i www.azimech.co.uk am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â Nick trwy azimechresearch@gmail.com