Back

(Cymraeg) Future Acoustics

Mae Futurist Acoustics yn adeiladu dyfodol sain gêm wedi’i bweru gan AI. Mae ein technolegau arloesol yn symleiddio llifoedd gwaith ar gyfer dylunwyr sain gêm a datblygwyr, gan ddarparu offer newydd cyffrous sy’n haws i’w defnyddio ac yn tanio creadigrwydd. Mae sain gêm wedi bod yn ôl-ystyriaeth ers amser maith, ac mae offer llonydd a llifoedd gwaith undonog yn gyffredin yn y maes. Mae ein datrysiad AI blaengar yn arwain y ffordd o ran datblygiad cyflym yn y maes hwn. Heb gyfyngiadau datrysiadau sain hen ffasiwn, gall datblygwyr grefftio seinweddau gor-realistig a chreadigol yn effeithlon er mwyn i chwaraewyr allu ymgolli’n llwyr mewn bydoedd dychmygol.

Dyma Futurist Acoustics: lle mae datblygiadau mewn sain gêm yn digwydd. Problem:

Yn hanesyddol mae peiriannau gêm wedi blaenoriaethu delweddau, gan drin sain fel ôl-ystyriaeth. Datblygwyd offer canolwedd a oedd yn cynnig offer sain gêm i fynd i’r afael

â’r broblem, ond nid ydynt wedi cael eu datblygu ers hynny. Nid yw llifoedd gwaith wedi newid ers dros ddegawd. Mae angen llawer o hyfforddiant er mwyn gallu defnyddio’r offer a ddefnyddir heddiw yn ogystal â llawer o amser ac ymdrech er mwyn datblygu sain o ansawdd sy’n addas ar gyfer gêm fideo. Mae monopoli yn y farchnad nwyddau canolwedd sain wedi magu hunanfodlonrwydd ac wedi mygu arloesedd. Mae’r status quo hwn yn golygu fod dylunwyr a chwaraewyr ar eu colled.

Mae’r broblem hon yn arwain at fwy o amser yn mynd i’r afael â thasgau diflas a llai o archwilio posibiliadau creadigol, gan gyfyngu ar y posibilrwydd o grefftio sain gwirioneddol wych. Mae datblygiad sain gêm yn hen ffasiwn. Mae angen offer newydd ac effeithlon ar ddatblygwyr i’w galluogi i wireddu eu creadigrwydd er mwyn creu sain eithriadol i’r chwaraewyr. Ateb: Rydym yn cyflwyno offer arloesol wedi’u pweru gan AI i’r maes sain gêm gan ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl yn y maes. Mae ein technoleg yn galluogi llifoedd gwaith sydd ddim yn bosib wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol ac mae ein technoleg yn caniatáu i ddatblygwyr allu archwilio ffiniau creadigol newydd. Heb gyfyngiadau canolwedd sain hen ffasiwn, bydd datblygwyr yn gallu crefftio seinweddau gor-realistig a chreadigol yn effeithlon er mwyn i chwaraewyr allu ymgolli’n llwyr mewn bydoedd digidol. Rydym yn rhoi galluoedd sain arloesol i ddatblygwyr, gan ryddhau eu grym creadigol er mwyn gwella naratifau, emosiynau a throchi i chwaraewyr. Maes Gweithredu

Mae Futurist Acoustics yn bwriadu cynnig gostyngiadau ar gynnyrch i’r sawl sy’n tanysgrifio i’n cylchlythyr. Cofrestrwch yma https://futuristacoustics.com/

Gwybodaeth Bellach

Edrychwch ar yr adran amdanom ni ar y wefan: https://futuristacoustics.com/about-us

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy