Back

Powel Audio ( Cymraeg)

Mae Powell Audio yn cynnig gwasanaethau peirianneg sain llawrydd wedi’u lleoli yn Ne Cymru, sy’n amrywio o sain byw i recordio. 

 

Mae Powell Audio yn gweithio gydag amrywiaeth o fandiau a lleoliadau i ddarparu sain o’r radd flaenaf ac maent wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnesau Newydd Cymru.  

 

Ers ymuno â’r Stiwdio Sefydlu yn 2022, mae’r sylfaenydd, Jordan Powell, wedi gwneud defnydd da o’i raddau MSc Peirianneg Cerddoriaeth a BSc Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau, wrth iddo greu amrywiaeth o offerynnau pwrpasol i helpu yn ei waith. 

 

“Heb y stiwdio byswn i ddim yn gallu gweithio yn y diwydiant… Roedd yn hanfodol i mi er mwyn dechrau ar fy nhaith.” – Jordan Powell  

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy