Back

Rhaglen Datblygu Busnes Creadigol Casnewydd yn lansio

Ym mis Medi, lansiodd Stiwdio Sefydlu ei rhaglen datblygu busnes newydd, sy’n agored i unrhyw berson creadigol yn ardal Casnewydd. Mae’r gweithdai newydd, sydd mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru; gyda chyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cael eu cyflwyno’n bersonol ar gampws Casnewydd PDC. Maent hefyd yn nodi dychweliad buddugoliaethus yr Hwb Busnes Creadigol (a dreialwyd y llynedd yn y ddinas mewn partneriaeth â Chaerdydd Greadigol.) 

I’r rhai nad ydynt yn y sector creadigol, mae disgwyl i’r ail yn y gyfres ddechrau ym mis Ionawr 2025. Targedir hwn yn benodol at unrhyw un sydd o gefndir mwyafrif byd-eang, sy’n F/fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol, neu’n dod o gefndir dan anfantais addysgol/amgylcheddol neu economaidd. 

Bydd Stiwdio Sefydlu ar agor ar gyfer syniadau busnes newydd mewn unrhyw sector- o ffasiwn, harddwch a thechnoleg ariannol, i fwyd a diod.  

Diolch i gyllid allanol, mae Stiwdio Sefydlu wedi gallu ehangu ei gyrhaeddiad o fewn cymunedau ar draws Casnewydd ac ehangu rhwydweithiau aelodau newydd a graddedigion presennol.  

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen fer yma

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy