Back

Humoni (Cymraeg)

Yn cyflwyno aelod mwyaf newydd Stiwdio Casnewydd, Adedamola Akintunde, ACIB, MBA o Humoni

1. Pryd wnaethoch chi ymuno â’r Stiwdio Sefydlu?
Ymunais â’r Stiwdio Sefydlu ym mis Hydref, ac mae wedi bod yn gam sylweddol ymlaen. Yn hytrach na chanolbwyntio ar adeiladu’r syniad yn unig, rydym wedi bod yn gweithio i greu rhywbeth sydd ag effaith wirioneddol. Dyma’r amgylchedd delfrydol i droi ein gweledigaeth yn realiti a’i gynyddu, gyda chefnogaeth cymuned fywiog, greadigol.

2. Pa gwrs wnaethoch chi ei astudio yn PDC?
Cwblheais MBA yn PDC ym mis Medi, ac mae wedi bod yn brofiad hollbwysig i mi. Nid yn unig y gwnaeth fy helpu i fireinio fy sgiliau, ond fe wnaeth hefyd fy amlygu i ddysgu a safbwyntiau newydd. Roedd y rhaglen yn darparu dysgu strategol ymarferol, ac mae’r rhyngweithio ag arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau wedi bod yn amhrisiadwy.

3. Dywedwch wrthym am eich syniad a’ch cysyniad busnes?

Mae’r genhadaeth yn syml: gwneud gwasanaethau ariannol yn fwy hygyrch i fudwyr trwy atebion technoleg ariannol arloesol. Credwn fod Bancio Agored yn cynnig cyfle unigryw i fynd i’r afael â’r eithrio ariannol sy’n aml yn wynebu’r cymunedau hyn sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol. Ein nod yw creu llwyfan ariannol sydd nid yn unig yn darparu mynediad at gynhyrchion credyd wedi’u teilwra ond sydd hefyd yn creu ecosystem gefnogol o offer ac adnoddau sydd wedi’u cynllunio i rymuso unigolion, hyrwyddo tegwch, a gyrru cynhwysiant ariannol.

Wrth wraidd yr hyn rydym yn anelu at ei adeiladu mae egwyddorion empathi, grymuso a thegwch. Mae’r gwerthoedd hyn yn llywio pob rhyngweithiad sydd gennym â darpar ddefnyddwyr a phartneriaid, gan sicrhau bod mudwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso.

4. Pam ydych chi wedi ymuno â’r Stiwdio Sefydlu?

Credaf fod cydweithredu yn gyrru gwir arloesedd. Pan fyddwch chi’n dod â phobl greadigol o’r un anian at ei gilydd ac yn rhoi’r rhyddid iddyn nhw archwilio syniadau newydd, dyna pryd mae syniadau arloesol yn dod i’r fei. Y Stiwdio Sefydlu yw’r union fath o ecosystem lle mae hynny’n digwydd. O’r sgwrs gyntaf un, roedd yn amlwg eu bod yn deall ac yn credu yn ein cenhadaeth. Nid yw’n ymwneud â lansio busnes yn unig – mae’n ymwneud â chreu rhywbeth a all ail-lunio sut mae mudwyr yn ymgysylltu â gwasanaethau ariannol, a’r Stiwdio Sefydlu yw’r lle perffaith i wneud i hynny ddigwydd.

5.Oes gennych chi ddolenni cyfryngau cymdeithasol? Rhestrwch nhw isod.

Linkedin – https://lnkd.in/eaUB8_Wf

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy