Llwyddodd pum busnes graddedigion i gwblhau rhaglen LANSIO+ y mis diwethaf. Wedi’i hariannu’n rhannol gan y Stiwdio Sefydlu a’i chynnal yn uned egino busnes Pontypridd, rhoddodd y rhaglen datblygu busnes 16 wythnos a £5,000 yn lle cyflog gyfle i Silence Speaks (Steven Crichton), UNPAGED Studios (Lauren Elizabeth Page), Mentality Clothing (Calum O’Neill) EW_functional_Fitness (Ethan Wynne) a’r he Community Chiropractor (Dr Lyndsay Crompton MChiro Hons) ganolbwyntio’n llwyr ar eu hymdrechion dechrau busnes a bod yn rhan o’r teulu Entrepreneuraidd yn PDC.
Darparodd cydweithwyr yn nhimau Menter a Gyrfaoedd PDC y rhaglen a enwebwyd am wobrau, un o’r rhai cyntaf o’i bath yn y DU, gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, Kevin Mansell – Abell, Helen Corsi-Cadmore ac arbenigwyr eraill.
Daeth dathliad y diwrnod olaf i ben gyda chyflwyniadau i dynnu sylw at gyrhaeddiad y busnesau. Gall pob aelod o’r garfan nawr fwynhau lle yn y Stiwdio Sefydlu o’u dewis (Casnewydd, Caerdydd neu Bontypridd/Trefforest) i adeiladu ar eu dysgu a chryfhau eu rhwydweithiau.