Back

‘Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru’: PDC ymhlith y tri uchaf yn y DU ar gyfer busnesau newydd graddedigion

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi atgyfnerthu ei safle fel arweinydd ym maes meithrin talent entrepreneuraidd, gan ennill safle ymhlith y tri uchaf yn y DU ar gyfer y nifer mwyaf o fusnesau newydd graddedigion yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd. Mae PDC hefyd yn cadw ei theitl fel y gorau yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd graddedigion am y bumed flwyddyn yn olynol.

Mae ffigurau a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod PDC wedi symud i fyny i’r chweched safle, allan o 220 o brifysgolion yn y DU, ar gyfer busnesau newydd, ac mae hefyd ar y brig yng Nghymru o ran niferoedd busnesau graddedigion gweithredol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi dod yn ail yng Nghymru a’r chweched yn y DU am sefydlu busnesau sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf dair blynedd.

Dywedodd Dr Louise Bright, Dirprwy Is-Ganghellor PDC dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau: “Rwy’n falch iawn bod PDC yn parhau i osod meincnod fel ‘Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru’. Mae’r llwyddiant hwn yn dyst go iawn i uchelgais a thalent ein hentrepreneuriaid graddedig, sy’n cael eu cefnogi bob cam o’r ffordd trwy ein mentrau menter deinamig.

“Yn PDC, mae meddwl entrepreneuraidd wedi’i gynnwys ym mhopeth a wnawn. Rydym yn angerddol am helpu ein myfyrwyr i ffynnu. Mae eu paratoi â’r sgiliau hyn, y mae yna alw amdanynt, yn sicrhau eu bod yn gallu arwain, arloesi, a sefyll allan yn y byd cystadleuol heddiw.”

Roedd graddedigion Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC yn cynrychioli mwy na hanner y mentrau newydd. Mae’r busnesau hyn yn rhychwantu ystod amrywiol o sectorau, o gynhyrchu’r cyfryngau a fideograffeg i ddylunio ffasiwn, cerddoriaeth a datblygu gemau.

Priodolir y llwyddiant parhaus hwn i ffocws a buddsoddiad ymroddedig y Brifysgol ym maes entrepreneuriaeth, gan gynnwys mentrau gan dîm y Stiwdio Sefydlu a’r tîm Menter, sy’n darparu sgiliau, cyllid, cyngor a chymorth hanfodol i raddedigion. Mae’r Brifysgol hefyd yn derbyn cefnogaeth barhaus hanfodol gan Medr a Llywodraeth Cymru i alluogi cyflwyno rhaglenni cymorth i ddarpar fusnesau newydd a gweithwyr llawrydd.

Dywedodd Dan McCadden, un o raddedigion PDC a sylfaenydd 66Days Film: “Ni fyddwn lle’r ydw i heddiw heb y cymorth rydw i wedi’i derbyn gan PDC. Roedden nhw’n credu yn y weledigaeth ar gyfer ’66 Days’ o’r cychwyn cyntaf, gan ddarparu’r cyllid, yr offer a’r gefnogaeth hanfodol a oedd eu hangen. Nawr, mae gen i gleientiaid rhyngwladol, rwy’n ffilmio rhaglenni dogfen a chynnwys ledled y byd, a hyn oll diolch i PDC.”

Mae’r gydnabyddiaeth barhaus hon yn dangos ymrwymiad PDC i feithrin y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a chyfrannu at dwf economi De Cymru ac yn ehangach ledled y DU.

Darllen mwy yma

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy