Yn cyflwyno ein haelod mwyaf newydd o Stiwdio Casnewydd, Julie-Anne, o Bake-Well Therapy
- Ymunais â’r stiwdio ym mis Gorffennaf 2024
- Astudiais BA Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig ar Gampws Casnewydd, ac rydw i wedi cymhwyso fel cwnselydd lluoseddol integreiddiol gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.
- Fy syniad/cysyniad busnes yw dod yn gwnselydd llawrydd sy’n masnachu o dan yr enw Bake-Well Therapy. Byddaf yn darparu cwnsela unigol preifat yng Nghasnewydd ac ar-lein i unigolion o bob oedran (plant i oedolion hŷn), yn ogystal â darparu contractau cwnsela tymor byr a rhaglenni grŵp ar bobi therapiwtig i sefydliadau. Rwy’n bwriadu gwneud fy rhan i helpu i wella iechyd meddwl a lles pobl mewn cymunedau lleol trwy gynnig cwnsela (sy’n canolbwyntio ar anghenion unigryw unigolion) a grwpiau pobi therapiwtig sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo cysylltiad, datblygu sgiliau ymdopi, gwytnwch a lles unigolion, trwy weithgaredd ystyriol a synhwyraidd. Mae gen i brofiad personol o’r effaith gadarnhaol ar fy iechyd meddwl fy hun a ddeilliodd o bobi. Rydw i hefyd wedi gweld effaith gadarnhaol sesiynau grŵp pobi wrth eu cynnal yn wirfoddol, ac rydw i’n gobeithio rhannu’r wybodaeth hon yn y gymuned.
- Ymunais â’r stiwdio sefydlu i allu dysgu gan y rhai sydd eisoes yn hunangyflogedig ac yn fwy profiadol na mi, yn ogystal â rhoi fy ngwybodaeth fy hun yn ôl pan fo’n bosibl. Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o gymuned o unigolion o’r un anian. Rydw i eisoes wedi cael llawer o gefnogaeth gan dîm menter PDC ac felly rydw i’n gyffrous i weld sut y galla’ i dyfu a datblygu wrth fod yn rhan o’r stiwdio!