Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ymunwch â ni i ddathlu rhai o’r busnesau gwych sydd wedi’u cefnogi drwy’r rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd – a ddarperir gan Stiwdio Sefydlu PDC mewn partneriaeth â Natwest.
ZSU’S DREAMIES (Zsuzsa Polonkai)
Zsu’s Dreamies: cacennau wedi’u dylunio, danteithion siocled ac anrhegion siocled gothig, cartref, wedi’u creu â llaw.
Dyluniadau wedi’u personoli ar gael ar gais
Anrhegion siocled unigryw o ansawdd uchel a danteithion ar gyfer pob achlysur a dyluniadau cacennau dathlu siocled i bawb sy’n hoff o siocled. Gyda chynhwysion naturiol, i gyd o’r galon.
Zsu’s Dreamies (@zsu.s_dreamies) • Instagram
“Mae’r rhaglen (Datblygu Menywod Entrepeneuraidd) wedi helpu i feithrin dealltwriaeth o dermau busnes a phwysigrwydd hyblygrwydd a chynllunio parhaus. Rhoddodd y termau hynny mewn cyd-destun real a rhoddodd arweiniad i mi ar sut i ddatblygu fy syniadau i fformat mwy proffidiol.
Gwnaeth wahaniaeth enfawr, gan ddeall bod gwahanol gamau a lefelau o fusnes a sut i lywio rhyngddynt.
Gwnaeth i mi sylweddoli nad wyf ar fy mhen fy hun, a pha mor bwysig yw adeiladu rhwydwaith cymorth. Ar yr un pryd, roedd y rhaglen yn gyfle i adeiladu’r rhwydwaith hwnnw a chwilio am gyfleoedd i gydweithio â phobl eraill o’r un anian.
Ar y cyfan, mae wedi dod â byd busnesau bach i lawr i dir lle nad yw mor frawychus â hynny mwyach. Rhoddir offer i mi symud ymlaen a dangosir i mi ffyrdd o adeiladu rhywbeth cynaliadwy yn y tymor hir.”
-Zsuzsa
HOLLOS (Judi Jackson)
Therapi cyfannol a lles creadigol.
Therapydd cyflenwol cymwys gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Mae’n angerddol am ein taith unigol at les, a defnyddio therapïau cyflenwol/amgen a’n creadigrwydd ein hunain i drawsnewid, ffynnu a thyfu.
LUCILLA JONES ILLUSTRATION ( Lucilla Jones)
Mae Lucilla yn ddarlunydd llawrydd o Gasnewydd, sy’n arbenigo mewn cyfryngau fel paentio dyfrlliw, lluniadau pen ac inc a braslunio. Mae hi’n dylunio
cymeriadau ac anifeiliaid gan ddefnyddio arddull darluniadol naratif mynegiannol ac
yn dylunio darnau trwy ddod â nodweddion ffantasi ac etheraidd allan o’r cyffredin.
Lucilla Jones (@lucillustration) • Instagram
Lucillajonesillustration@gmail.com
Gwelwch arddangosiadau blaenorol yma