Yn cyflwyno aelod diweddaraf Stiwdio Sefydlu Caerdydd, Vignesh Pathmaraj o Elements Technik LTD
1.Pryd wnaethoch chi ymuno â Stiwdio Sefydlu?
Ar 14 Ionawr 2025, dechreuais ar bennod newydd gyffrous trwy ymuno â Stiwdio Sefydlu. O’r eiliad y camais i’r amgylchedd deinamig hwn, roeddwn i’n gwybod ei fod yn fan lle mae syniadau’n dod yn fyw a bod creadigrwydd yn ffynnu.
- Pa gwrs wnaethoch chi ei astudio yn PDC?
Roedd dilyn MSc mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol De Cymru yn un o brofiadau mwyaf trawsnewidiol fy mywyd. Cynigiodd y rhaglen ddealltwriaeth fanwl i mi o egwyddorion peirianneg, wrth fy herio i feddwl yn arloesol a datrys problemau byd go iawn.
3.Dywedwch wrthyf am eich syniad busnes a’ch cysyniad?
Mae Elements Technik Limited yn gwmni peirianneg a thechnoleg deinamig gyda ffocws cryf ar drawsnewid diwydiannau trwy arloesi. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu gweithgynhyrchu, datblygu meddalwedd, roboteg ac awtomeiddio, darnau sbâr peirianneg a rheoli peirianneg. Dan arweiniad ein gweledigaeth graidd, rydym yn ymroddedig i ddatblygu technolegau blaengar sy’n mynd i’r afael â heriau diwydiannol hanfodol, gan ddarparu atebion manwl gywir, arloesol ac effeithlon ar draws ystod eang o sectorau.
Mae ein model busnes wedi’i adeiladu ar dair golofn allweddol:
- Technoleg a Datblygu Cynnyrch Rydym yn arbenigo mewn dylunio a darparu cynhyrchion a gwasanaethau o’r radd flaenaf wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw diwydiannau. Trwy gyfuno technoleg uwch ag arbenigedd peirianneg, rydym yn creu atebion sy’n gyrru effeithlonrwydd a pherfformiad.
- Ymgynghoriadau Peirianneg Mae ein tîm o arbenigwyr yn darparu arweiniad strategol i gael y defnydd gorau o brosesau a systemau, gan sicrhau bod busnesau yn cyflawni rhagoriaeth weithredol ac yn parhau i fod yn gystadleuol yn eu meysydd.
- Atebion Cynnal a Chadw Dibynadwyedd Gan ddefnyddio methodolegau datblygedig, rydym yn helpu diwydiannau i leihau achosion o offer sy’n torri a lleihau costau cynnal a chadw yn sylweddol, gan wella cynhyrchiant a chynaliadwyedd.
Yn Elements Technik Limited, nid ydym yn datrys problemau yn unig – rydym yn ailddiffinio posibiliadau. Trwy ein hymrwymiad i arloesi a rhagoriaeth, ein nod yw grymuso diwydiannau a llunio dyfodol peirianneg a thechnoleg.
4.Pam ydych chi wedi ymuno â Stiwdio Sefydlu?
Mae ymuno â Stiwdio Sefydlu yn garreg filltir gyffrous yn fy nhaith entrepreneuraidd. Mae’r canolbwynt deinamig hwn yn cynnig yr amgylchedd perffaith i arloeswyr ffynnu. Cefais fy nenu at ei ecosystem fywiog, sy’n meithrin creadigrwydd, cydweithredu a thwf—cynhwysion allweddol ar gyfer troi syniadau yn fentrau dylanwadol.
Mae Stiwdio Sefydlu yn darparu mynediad heb ei ail i fentora, cyfleusterau blaengar, a chyfleoedd rhwydweithio. Mae’r adnoddau hyn yn amhrisiadwy i entrepreneuriaid sy’n ceisio mireinio eu strategaethau a thyfu eu busnesau. Mae bod yn rhan o’r gymuned hon hefyd yn golygu cysylltu ag unigolion o’r un anian sy’n rhannu brwdfrydedd dros arloesi a datrys problemau.
Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw sut mae Stiwdio Sefydlu yn annog ffordd feiddgar o feddwl, ac sy’n cynnig llwyfan i wireddu syniadau gweledigaethol. Rwy’n awyddus i fanteisio ar y gofod hwn i dyfu, dysgu a chyfrannu at gymuned entrepreneuraidd ffyniannus. Megis dechrau taith anhygoel yw hyn.
5.A oes gennych ddolenni cyfryngau cymdeithasol? Rhestrwch isod.