- Pryd wnaethoch chi ymuno â’r Stiwdio Sefydlu?
Daeth y tîm yn aelodau ym mis Ionawr 2024
- Pa gyrsiau wnaethoch chi eu hastudio yn PDC?
Courtney – BA Anrh Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Finn – BA Anrh Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Bel – BA Cyfathrebu Graffeg (2il flwyddyn ar hyn o bryd)
Josh – BSc Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
Bex – BA Sgriptio
Luke – BA Technolegau Cerddoriaeth Creadigol a MSc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth
- Dywedwch wrthym am GameDev Caerdydd a sut y datblygodd?
Rydym yn griw o unigolion o bob rhan o’r goeden deulu datblygu gemau, wedi’u huno yn y nod o feithrin cymuned gyfeillgar, agored a chefnogol i’r sin datblygu gemau yng Nghaerdydd a Chymru.
Mae’r gymuned yn cael ei harwain gan dîm o chwe gwirfoddolwr, i gyd yn fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr PDC a gyfarfu mewn cyfarfodydd cymdeithasol ar gyfer yr hyn a fu unwaith yn gymuned Gemau Cymru.
Ein raison d’etre yw pontio’r bwlch rhwng pobl greadigol o bob cefndir, gan ddod â phrofiad, sgiliau a mentoriaeth y diwydiant i ddatblygwyr llai, a chreu gofod lle gall pobl greadigol angerddol ddod o hyd i’r cysylltiadau a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt i’w cefnogi a’u hannog orau yn eu hymdrechion – ac efallai cael ychydig o hwyl ar hyd y ffordd.
- 4. Pa gefnogaeth ydych chi wedi’i chael o’r Stiwdio Sefydlu?
Mae’r Stiwdio Sefydlu wedi bod yn help anhygoel hyd yn hyn, o’n cysylltu â phob math o bobl gymwynasgar yn y diwydiant ac yn annibynnol, i ddarparu’r lleoliad i ni gynnal safle ar gyfer Global Game Jam 2024, sef ein digwyddiad swyddogol cyntaf.
- Beth yw eich 3 phrif nod ar gyfer 2024?
Rydym yn gobeithio:
-Cynnal sgyrsiau chwarterol i addysgu ac ysbrydoli’r gymuned
-Cynnal jamiau gêm chwarterol i gadw’r syniadau creadigol i lifo
-Cryfhau ein cysylltiad â sectorau creadigol a gemau llywodraeth leol i fod mewn sefyllfa i gynnig cefnogaeth gref a diriaethol i’n cymuned
- Oes gennych chi ddolenni cyfryngau cymdeithasol? A wnewch chi eu rhestri isod, os gwelwch yn dda.
https://www.facebook.com/profile.php?id=61550529301139
https://twitter.com/GameDevCardiff
www.linkedin.com/company/game-dev-cardiff