The Clarity Hub
Mae Joanna yn Hyfforddwr Gweithredol a Mentor sy’n arbenigo mewn brand personol, dilyniant gyrfa ac arweinyddiaeth. Treuliodd Jo fwy nag ugain mlynedd yn gweithio ym maes datblygu brand yn y diwydiannau diwylliannol, ac yn ddiweddarach mae hefyd wedi gweithio gyda’r GIG fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Gwarcheidwad Lles. Mae Jo yn frwd dros helpu menywod i adrodd eu ‘straeon’ ac i gyfleu eu gweledigaeth a’u gwerthoedd mor effeithiol â phosib. Mae ganddi Radd Meistr mewn Strategaeth, Newid ac Arweinyddiaeth o Brifysgol Bryste ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at PhD yn edrych ar iaith sy’n benodol i rywedd mewn arweinyddiaeth.
