Jean Genies
Mae Marion yn beintiwr ac yn artist cyfryngau cymysg sydd wrth ei bodd yn gweithio gyda deunyddiau traddodiadol fel olewau, dyfrlliw, tecstilau, pen ac inc. Mae ei gwaith yn archwilio lliw ac emosiwn trwy ein perthynas â natur, technoleg, ffasiwn ‘cyflym’ a’r amgylchedd – i greu delweddau sy’n denu’r gwyliwr i mewn, a gwahodd myfyrdod dyfnach ar y byd o’n cwmpas. Fel artist llawrydd, mae hi wedi cael gyrfa amrywiol a chydweithredol a ddechreuodd 30 mlynedd yn ôl fel dylunydd brodwaith a phrintiau i gwmnïau mawr, yna yn ddiweddarach, addysgu a dylunio gweithgareddau celf mewn lleoliadau addysgol, gofal iechyd a chymunedol amrywiol. Yn 2004, sefydlodd fusnes dylunio gyda’i gŵr, Rhys a darganfod angerdd am gelf gyfranogol pan symudon nhw i Gymru 20 mlynedd yn ôl. Ochr yn ochr â gweithio fel artist a thiwtor llawrydd, mae’n gwirfoddoli yn The Place, Casnewydd gyda phrosiect crefftwaith tecstilau a sefydlwyd ganddi yn 2022 o’r enw ‘Jean Genies: Making Magic with Denim.