
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Deorfa: “Fel Rheolwr Deorfa Startup Stiwdios Sefydlu PDC, a hefyd un o Hyrwyddwyr y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cynnwys pedwar o’n hentrepreneuriaid graddedig Du ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.
“Maen nhw i gyd yn fodelau rôl gwych ac maen nhw i gyd yn rhedeg cwmnïau newydd hynod arloesol ar draws De Cymru. Gobeithio y cewch eich ysbrydoli gan eu storïau.