Back

Molara Awen (Cymraeg)

Celfyddydau SPAN

Mae Molara yn gantores, perfformiwr, artist ac ymarferydd creadigol ysbrydoledig. Roedd ei thad-cu ar ochr ei mam yn un o sylfaenwyr Cymdeithas George Formby, a chefnder ei thad oedd y Fela Kuti adnabyddus. Mae’n gadeirydd presennol Hanes Pobl Ddu Cymru 365, ac mae’n disgrifio ei threftadaeth fel trysor. Mae hi hefyd wedi rhoi darpariaeth addysgol mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau i bobl rhwng 0 ac 106 oed, o wahanol alluoedd a chefndiroedd ers 1992. Bu’n ymgyrchu dros gydraddoldeb a chyfiawnder y rhan fwyaf o’i bywyd ac yn ddiweddar mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau ar gyfer Cyngor y Celfyddydau, National Theatre Wales, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Celfyddydau Span Arts a Race Council Cymru.

 

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy