Back

Prith Biant (Cymraeg)

The Creative Thinking Company

Hwylusydd ac Artist Gweledol 

Mae Prith Biant yn entrepreneur creadigol sydd wedi bod yn y maes ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi wedi tyfu a datblygu sawl busnes gan gynnwys menter gymdeithasol. Mae hi’n artist gweledol gyda chefndir hyfforddiant mewn creadigrwydd, menter a marchnata. 

Mae hi wedi dysgu busnes a menter mewn lleoliadau prifysgol ac yn y gymuned, felly mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y maes hwn.  Mae hi’n Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru ac mae wedi ysgrifennu llyfr busnes o’r enw Who says you’re not creative (2013, ar gael ar Amazon). Bu hefyd yn rhedeg clwb busnes llwyddiannus o’r enw ‘Goroesi a ffynnu’ am nifer o flynyddoedd i gymuned busnesau bach Caerdydd. 

Mae Prith yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth.  

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy