Ehangu Ymgysylltiad a Chynhwysiant

Capabilities

Mae'r rhaglen hon ar gau ar hyn o bryd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn diweddariadau neu brosiectau tebyg, e-bostiwch stiwdio@southwales.ac.uk i gael sgwrs anffurfiol

Mae entrepreneuriaid o ardal Casnewydd sy’n gweithredu yn y sector creadigol yn cael cynnig mynediad at raglenni datblygu busnes am ddim. Mae’r rhaglen mewn partneriaeth â ICE Cymru – y Ganolfan Arloesi Menter – sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy Llywodraeth y DU i redeg rhaglenni cychwyn busnes ar draws y ddinas mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill.

Mae Stiwdio Sefydlu arobryn PDC yn dychwelyd i Gasnewydd  ym mis Ionawr, gan gynnig hyfforddiant a rhaglenni datblygu busnes am ddim i unrhyw un sydd o gefndir mwyafrif byd-eang, sy’n F/fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol, neu’n dod o gefndir dan anfantais addysgol/amgylcheddol neu economaidd ac sydd â syniad busnes newydd mewn unrhyw sector – o ffasiwn, harddwch a thechnoleg ariannol, i fwyd a diod.

03.

Mae'r rhaglen agored i unrhyw un sy'n byw yng Nghasnewydd neu sydd am ddechrau eu busnes yno, ac nid oes angen i chi fod yn raddedig o PDC i ymuno.

Cynhelir yr holl raglenni ar ddyddiau Iau (rhwng 9.30am a 3pm) ac maent yn cynnwys rhaglen datblygu busnes a mentora 1-i-1. Yn ogystal, gall cyfranogwyr lleoli eu busnes yn neorydd newydd Stiwdio Sefydlu PDC ar gampws canol y ddinas, gan elwa o rwydweithiau busnes helaeth ledled De Cymru.

  • Rhwydweithio gyda chysylltiadau newydd yn yr ardal
  • Ysgogi syniadau newydd
  • Cymorth i fusnesau newydd gan Startup Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru ar ei champws yng Nghasnewydd
  • Sefydlu cydweithrediadau a phrosiectau newydd
  • Ymgysylltu â chymunedau newydd
  • Ehangu eich sylfaen wybodaeth
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig, gwnewch gais nawr
inquiries

Cofrestrwch eich diddordeb yma:

a chwblhewch yr Arolwg Cydraddoldeb/Amrywiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch stiwdio@southwales.ac.uk gyda’r pwnc “datblygu busnesau newydd .” Gallwn gadw mewn cysylltiad wrth i’r Clwstwr Creadigol ddatblygu am drafodaeth anffurfiol

Back

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

This website stores cookies on your computer. Cookies Policy