Capabilities
Mae Stiwdio Sefydlu arobryn PDC yn dychwelyd i Gasnewydd ym mis Medi,
01.
Mae entrepreneuriaid o ardal Casnewydd sy'n gweithredu yn y sector creadigol yn cael cynnig mynediad at raglenni datblygu busnes am ddim. Mae'r rhaglen mewn partneriaeth â ICE Cymru – y Ganolfan Arloesi Menter – sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy Llywodraeth y DU i redeg rhaglenni cychwyn busnes ar draws y ddinas mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill.
Gan gynnig hyfforddiant a rhaglenni datblygu busnes am ddim i unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes newydd yn y sector creadigol neu sydd am ddod yn weithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.


03.
Mae'r rhaglen agored i unrhyw un sy'n byw yng Nghasnewydd neu sydd am ddechrau eu busnes yno, ac nid oes angen i chi fod yn raddedig o PDC i ymuno.
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Stiwdio Sefydlu: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid parhaus i’n galluogi i ehangu’r Rhwydwaith Busnesau Creadigol yng Nghasnewydd, ar ôl ei beilot llwyddiannus yn 2023; ariannwyd gan Creative Cardiff. Mae gan Gasnewydd sin creadigol annibynnol ffyniannus eisoes, ac rydym yn gobeithio, trwy arfogi pobl a chymunedau yn y ddinas i ddechrau busnesau a gyrfaoedd creadigol newydd, y gall PDC barhau i ychwanegu at y sector twf uchel hwn.”
Cynhelir yr holl raglenni ar ddyddiau Iau (rhwng 9.30am a 3pm) ac maent yn cynnwys rhaglen datblygu busnes a mentora 1-i-1. Yn ogystal, gall cyfranogwyr lleoli eu busnes yn neorydd newydd Stiwdio Sefydlu PDC ar gampws canol y ddinas, gan elwa o rwydweithiau busnes helaeth ledled De Cymru.
- Rhwydweithio gyda chysylltiadau newydd yn yr ardal
- Ysgogi syniadau newydd
- Cymorth i fusnesau newydd gan Startup Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru ar ei champws yng Nghasnewydd
- Sefydlu cydweithrediadau a phrosiectau newydd
- Ymgysylltu â chymunedau newydd
- Ehangu eich sylfaen wybodaeth
- Mae lleoedd yn gyfyngedig, gwnewch gais nawr

inquiries
Cofrestrwch eich diddordeb yma:
a chwblhewch yr Arolwg Cydraddoldeb/Amrywiaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch stiwdio@southwales.ac.uk gyda’r pwnc “datblygu busnesau newydd .” Gallwn gadw mewn cysylltiad wrth i’r Clwstwr Creadigol ddatblygu am drafodaeth anffurfiol



