Yn cyflwyno aelod diweddaraf Stiwdio Sefydlu Caerdydd, Aimee Spencer
- Pryd wnaethoch chi ymuno â’r Stiwdio Sefydlu?
Ymunais ym mis Ionawr 2025.
- Pa gwrs wnaethoch chi ei astudio yn PDC?
Astudiais MA mewn Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles).
- Dywedwch wrthyf am eich syniad a’ch cysyniad busnes?
Trwy gydol fy ymarfer darluniadol, rwyf wedi bod wrth fy modd yn astudio bywyd dyfrol a bwystfilod bach. Yna, wrth astudio ar gyfer fy MA, cynhaliais lawer o ymchwil i systemau synhwyraidd y corff a gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â’r byd. Fy musnes, Sensory Art Bubble, yw penllanw’r ddau faes diddordeb hyn.
Trwy Sensory Art Bubble, rwyf am ddatblygu a chynnig dau beth:
*Gweithdai synhwyraidd cynhwysol ar gyfer babanod, unigolion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a’u rhieni a’u gwarcheidwaid. Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu tynnu i gynifer o gyfeiriadau, gyda gweithio, rhedeg cartref a magu eu plant. Rwyf am greu gofod lle gall rhieni ddod i ymuno â mi yn fy swigen, gan gymryd cam allan o’r byd prysur am gyfnod byr! Lle gallant fwynhau amser diogel ac ymlaciol gyda’u plentyn trwy adrodd straeon, celf a synhwyrau’r corff.
*Darnau celf unigryw, gyffyrddol a swyddogaethol. Crëwyd gan ddefnyddio dull cyfryngau cymysg, i ddathlu’r cefnfor a bwystfilod bach y tir. Arddangos yr harddwch yr ydym yn ei golli o’n cwmpas oherwydd ei fod mor fach neu o dan y dŵr. Rhywbeth bach o fy swigen i i’ch un chi!
4.Pam ydych chi wedi ymuno â’r Stiwdio Sefydlu?
Roeddwn wedi bod yn chwilio am rywle a allai gynnig cymorth i mi yn gyson y tu hwnt i weithdai tymor byr. Gyda’r arweiniad rheolaidd hyn yn sail i’m gwybodaeth fusnes y gallaf ddysgu a thyfu.
- Oes gennych ddolenni cyfryngau cymdeithasol? Rhestrwch nhw isod os gwelwch yn dda.
Gwefan: https://sensoryartbubble.com/
Instagram: https://www.instagram.com/sensoryartbubble/