Yn ddiweddar, dathlodd y Stiwdio Sefydlu lansiad llwyddiannus ei chyfleuster pwrpasol yn Nhrefforest gyda digwyddiad barbeciw yn yr iard gyfagos, yn TR BL15, a werthodd allan.
Mae’r gofod newydd, a rennir â thîm Cyfnewidfa PDC, wedi’i adeiladu’n bwrpasol i hwyluso digwyddiadau a chydweithio agored. Mae’n cynnwys ardal addysgu, ystafelloedd cynadledda y gellir eu harchebu, monitorau wedi’u gosod ar y waliau ar gyfer cyfarfodydd hybrid, ac iard awyr agored sy’n ddelfrydol ar gyfer rhwydweithio.
Yn ystod y digwyddiad, daeth dros 50 o fyfyrwyr a graddedigion o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys Ceiropracteg, Peirianneg, Rheoli ac Ysgrifennu Creadigol, at ei gilydd i ddathlu lansiad y gofod newydd. Roedd yn gyfle iddynt rannu eu syniadau busnes, cael adborth gan gyfoedion, a dysgu am y cymorth sydd ar gael gan y Stiwdio Sefydlu.
Mae’r cymorth hwn yn cynnwys gweithdai datblygu busnes wythnosol (sy’n ailddechrau ym mis Medi), gofod proffesiynol i gwrdd â chleientiaid, cyngor cyfrifeg am ddim gan Llama Accounting, cyngor cyfreithiol gan Capital Law, cyfeiriad busnes ar y safle, cyfleoedd cyllido cyfoes, a mynediad i’r uned cydweithio bwrpasol.
Os ydych chi’n raddedig diweddar o PDC sy’n edrych i weithio’n llawrydd neu’n sefydlu busnes yn RhCT, cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. E-bostiwch stiwdio@southwales.ac.uk i drefnu cyfarfod.
Yn ogystal, os nad ydych chi’n raddedig o PDC, mae digon o ffyrdd eraill i gymryd rhan. Mae’r Stiwdio Sefydlu yn cynnal digwyddiadau a rhaglenni rheolaidd sy’n agored i ymgeiswyr allanol, ac mae tîm Cyfnewidfa PDC wedi ailagor ei ddrysau i fusnesau a sefydliadau lleol sydd am ddefnyddio’r cyfleuster a manteisio ar gyfoeth gwybodaeth y Brifysgol.